Mae cynnal treialon yn rhan allweddol o ddatblygu'r asesiadau hyn: graddnodi cwestiynau, profi'r platfform cyflwyno a chasglu adborth gwerthfawr gan ddysgwyr.
Bydd ysgolion a fydd yn cymryd rhan yn y treialon yn defnyddio Hwb - https://hwb.gov.wales/ - i fewngofnodi ac i ddefnyddio'r asesiadau. Bydd athrawon yn gallu amserlennu asesiadau yn unol â dewisiadau a chyfleusterau eu hysgol.
Am wybodaeth ynglŷn â sut mae defnyddwyr yn canfod eu henwau defnyddwyr a chyfrineiriau Hwb, gweler y ddolen ganlynol - https://hwb.gov.wales/getting-started
Rydyn ni hefyd yn argymell y dylech ddarllen canllawiau digidol ar gyfer ysgolion Llywodraeth Cymru. Mae hwn yn adnodd gwerthfawr i helpu ysgolion reoli eu hamgylchedd technoleg ddigidol er mwyn hwyluso dysgu.
Am gymorth system, cysylltwch â:
E-bost: cymorth@asesiadaupersonol.cymru
Ffôn: 029 2026 5099
Am ymholiadau recriwtio ar gyfer treialon, cysylltwch â:
E-bost: trials@personalisedassessments.wales
Ffôn: 0161 249 9250